Cyfnodau Preswyl i Artistiaid yn Sain Ffagan Amgueddfa

Cyfnodau Preswyl i Artistiaid yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Pedwar cyfnod preswyl i artistiaid am chwe wythnos yr un, Mawrth/Ebrill 2015
Bwrsariaeth/tâl: £3,000 i bob artist
Dyddiad cau: 5pm, dydd Llun 19 Ionawr 2015
Cynhelir cyfweliadau ar ddydd Mercher 11 Chwefror 2015
Gwybodaeth i artistiaid
Gwybodaeth gefndirol
Sain Ffagan yw un o amgueddfeydd awyr agored gorau Ewrop ac atyniad
treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru. Saif yng ngerddi godidog Castell Sain Ffagan,
plasty hardd o’r 16eg ganrif a roddwyd i bobl Cymru gan Iarll Plymouth. Ar 20
Gorffennaf 2012, cyhoeddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri ei fod yn rhoi £11.5 miliwn
o grant i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Dyma’r grant mwyaf erioed i’r Gronfa ei rhoi yng Nghymru. Bydd yr arian yn cael ei
wario ar broject Creu Hanes, sef project £25.5 miliwn i weddnewid yr amgueddfa
hoff.
Byddwn yn ymestyn y llinell amser yn Sain Ffagan er mwyn i ymwelwyr allu dilyn
straeon am bobl Cymru, o’r brodorion cyntaf hyd heddiw a thu hwnt.
Rhaglen y cyfnodau preswyl i artistiaid
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru wedi cytuno i gydweithio er
mwyn cynnal rhaglen o gyfnodau preswyl dros dair blynedd. Y nod yw datblygu
arferion gwaith artistiaid a chynnwys cynulleidfaoedd yn y broses greadigol. Bydd y
rhaglen hon yn hybu rhagoriaeth ac arloesedd celf yn y byd cyhoeddus; yn rhoi
ansawdd wrth wraidd y gwaith a’r nodau, ac yn ymgorffori cynaliadwyedd.
Gyfnodau preswyl i artistiaid, Mawrth-Ebrill 2015: Gwahoddiad i wneud cais
Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, gyda chymorth Cyngor Celfyddydau
Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, yn gwahodd ceisiadau am gyfnodau preswyl
yn Sain Ffagan i’w cynnal rhwng dechrau mis Mawrth a diwedd mis Ebrill 2015.
Mae croeso i artistiaid gweledol a chymhwysol sy’n gweithio yn y DU neu ar draws y
byd ymgeisio. Rydym yn awyddus i benodi artistiaid sydd am weithio gyda
chasgliadau’r Amgueddfa ac sydd am gynnwys ein tîm mawr o staff yn eu gwaith.
Hoffem weld yr artistiaid yn ymateb i Sain Ffagan yn ei chyfanrwydd h.y. nid yn unig
y safle, ond y bobl sy’n gweithio yno a’u perthynas â’r Amgueddfa, yr adeiladau a’r
casgliadau hefyd. Rydym am i’r artistiaid ystyried sut mae’r Amgueddfa yn newid yn
sgil yr ailddatblygiad, yn ogystal â sut mae amgueddfeydd yn gyffredinol yn newid.
Gall yr artistiaid weithio ar draws gwahanol adrannau a themâu yn Sain Ffagan, er
enghraifft pensaernïaeth gyda’r Uned Adeiladau Hanesyddol a’r tîm curadurol, celf
werin gyda’r adrannau curadurol ac addysg; cynaliadwyedd gyda’r Uned Ystadau,
thema amser, pobl a lle ar draws nifer o adrannau neu fathau o waith, neu
gydweithio â’r staff gan drafod eu profiadau o weithio yn Sain Ffagan.
Os hoffech chi ymweld â Sain Ffagan i gael blas ar y safle a thrafod syniadau posibl,
bydd aelod o staff yr adran Addysg ar gael ar ddydd Mawrth 6 Ionawr 2015. Ebostiwch sian.lile-pastore@amgueddfacymru.ac.uk i drefnu amser, neu i holi unrhyw
gwestiynau sydd gennych am y cyfnodau preswyl.
Rhaid i’r artistiaid dreulio o leiaf 15 diwrnod yn yr Amgueddfa a rydym hefyd yn
disgwyl i bob artist gyflwyno hynt a helynt ei waith/gwaith i staff ac ymwelwyr. Y
broses greadigol, sy’n cynnwys ffyrdd newydd neu wahanol o weithio, syniadau
blaengar, ymateb creadigol i’r safle a chreu cysylltiadau â’r staff sydd bwysicaf i ni,
yn hytrach na’r cynnyrch terfynol. Nid ydym o reidrwydd yn disgwyl arddangos
gwaith.
Byddem yn annog ac yn cynorthwyo’r artistiaid i rannu eu harferion a’u prosesau
gwaith gyda’u cyfoedion a chyda’r cyhoedd ar y we.
Stiwdio
Mae stiwdio’r artistiaid ar y prif safle, ond ni ddarperir llety.
Tâl
Telir £3,000 i bob artist am 15 diwrnod o waith (neu gyfwerth) dros gyfnod o 2/3 mis,
gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae nawdd ychwanegol ar gael ar gyfer
deunyddiau a llety os oes angen, gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri fel rhan
o broject ailddatblygu Sain Ffagan.
Sut i ymgeisio
E-bostiwch yr wybodaeth ganlynol at sian.lile-pastore@amgueddfacymru.ac.uk:
•
Cynnig (dim mwy na 800 gair) yn disgrifio pa agweddau ar Sain Ffagan
Amgueddfa Werin Cymru yr hoffech ganolbwyntio arnynt yn ystod y cyfnod
preswyl a sut y bydd eich gwaith ar hyn o bryd yn bwydo mewn i hynny.
•
CV artist
•
Enghreifftiau o’ch gwaith, dim mwy nag 8 delwedd (dim mwy na 1600 x 1200
pixels) neu 4 dolen fideo.
Y dyddiad cau yw 5pm ar ddydd Llun 19 Ionawr.
Cynhelir cyfweliadau ar ddydd Mercher 11 Chwefror.
Artist Residencies at St Fagans National History Museum
Four six-week residencies March/April 2015
Bursary/Fee: £3,000 per residency
Deadline for applications – Monday 19th January 2015 at 5pm
Interviews – Wednesday 11th February 2015
Information for artists
Background
St Fagans is one of Europe's leading open-air museums and Wales's most popular
heritage attraction. It stands in the grounds of the magnificent St Fagans Castle, a
late 16th-century manor house donated to the people of Wales by the Earl of
Plymouth. On 20 July 2012 the Heritage Lottery Fund (HLF) announced its awarding
of £11.5 million to St Fagans National History Museum.
This is the largest grant ever awarded by the HLF in Wales. The money will go
towards Making History, an exciting £25.5 million project to transform this muchloved museum.
We will be extending the St Fagans timeline of the stories told, so that visitors can
follow the stories of the people of Wales from the very first human inhabitants to the
present day and beyond.
The Artist in Residence Programme
The Arts Council of Wales and Amgueddfa Cymru – National Museum Wales have
agreed to partner and implement a programme of residencies over a period of three
years with the aim to develop artists’ practice and engage audiences and
communities in the creative process. This programme will promote excellence and
innovation within art in the public realm, and place quality at the core of its delivery
and outcomes, as well as embody sustainability.
Residencies, March-April 2015: Invitation to Apply
St Fagans National History Museum, supported by the Arts Council of Wales and the
Heritage Lottery Fund, invite applications for residencies based at St Fagans to be
undertaken between March and April 2015.
The residencies are open to visual and applied artists working in the UK or
internationally. We are looking for practitioners who wish to work with the museum’s
collections and are interested in engaging with our large team of staff. We would like
the artists to respond to St Fagans as a whole – its physical site, but also the people
that work there and their relationship to the museum, the buildings and the
collections - and to examine how the museum is changing in the light of its
redevelopment as well as the changing nature of museums as a whole. The
successful artists could work across different departments and themes at St Fagans,
for example: architecture with the Historic Buildings Unit and curatorial team; folk art
with the curatorial and learning departments; sustainability with the Estates Unit;
time, people and place as a theme across a number of departments, or work with the
staff in general about their experiences of working at St Fagans.
If you would like to visit St Fagans to get a better understanding of the site and to
discuss possible ideas, a member of the learning department will be available on
Tuesday January 6th 2015. Please email sian.lile-pastore@museumwales.ac.uk to
make an appointment, or with any questions you may have about the residencies.
The artists must spend at least fifteen days at the Museum and we also expect each
artist to present his/her work in progress to staff and visitors. The creative process,
which includes: different and new ways of working, innovative ideas, creative
responses to the site and engagement with staff, is more important to us than a
finished final product. An exhibition of work is not necessarily expected.
We would encourage and support the artists to share their practice and process of
working both with their peers and with the public through an online presence.
Studio
The residency studio is on the main site, but accommodation is not provided.
Payment
Artists will be paid £3,000 for fifteen days’ work (or equivalent) over a two/three
month period, supported by the Arts Council of Wales. There is separate funding
available for materials and accommodation if needed, supported by the HLF as part
of the redevelopment of St Fagans.
How to Apply
Please email the following to sian.lile-pastore@museumwales.ac.uk
A proposal (no more than 800 words) detailing what aspects of St Fagans National
History Museum you would like to focus on as part of the residency and how it will be
informed by your current practice.
•
An artist CV
•
Examples of your work which should include no more than eight images (no
larger than 1600 x 1200 pixels) or four video links.
Deadline for applications is Monday 19th January at 5pm
Interviews will be held on Wednesday 11th February